{ko. nad oedd yn ydifar garv Morvudd}
1 I serch a roes merch i mi
2 seren cylch nant y seri
3 morwyn wych nid y marn au
4 Morvudd wyl mawr veddyliau
5 cyd collwyf o wiwnwyf vthr
6 vy anrhaith a vv iownrhuthr
7 cyd bu brid yn newid ni
8 prid oedd ir priod iddi
9 eithr rhac anvodd vthr geinvyw
10 Duw vry diedivar yw
11 gwedi chariad brad vur braw
12 lloer byd rhoi llaw ar beidiaw
13 [320] O cherais wreig mewn meigoel
14 wrth lynn y porthmonyn moel
15 gwragenus esgus osgordd
16 gwraig ryw bennaig robin nordd
17 Elen chwanog i olud
18 vy anrhaith ar led iaith lud
19 brenhines arglwyddes gwlan
20 brethyndai bro eithindan
21 dyn serchog oedd raid yno
22 gwae hi nad myvi vai vo
23 ni chymer hon wiwdon wedd
24 gerdd yn rhad gwrdd anrhydedd
25 hawdd gael a gafael gyva
26 haws no dim hosanau da
27 ag os caf liw gwynnaf gwawn
28 o vedlai a'm gwnai'n vodlawn
29 nid ydwyf nwyf anoval
30 rho Duw eb gaphael rhyw dal
31 ai ar eiriau arwyrain
32 ai ar veddwl cerddgar cain
33 ai ar eur cyd diheurwyf
34 ai ar ryw beth arab wyf
35 hefyd cyd bo vynhavawd
36 i Ddyddgu yn gweu gwawd
37 nid oes ym myn Duw o swydd
38 ond olrhain anwadalrhwydd
39 gwawr brinhiniaeth maeth ai medd
40 y byd wyr yw'r bedwaredd
41 ni chaiff om penn cymen call
42 hoen geirw na hi nag arall
43 nai henw na'r wlad ir hanoedd
44 hoph iawn yw na pha vn oedd
45 nid oes na gwraig bennaig nwyf
46 na gwr cimin a garwyf
47 ar vorwyn glaer galchgaer gylch
48 nos da iddi nis diylch
49 cair gair o garu n ddifrwyth
50 caf nid arbedaf i bwyth
51 [321] bei gwypai obaith vndyn
52 may am dani hi vai hyn
53 pei cynddrwg geinwen rudddeg
54 genthi ai chrogi wych reg
55 mwy lownbwys mav elynboen
56 mold a wnaf hi nyf hoen
57 hoyw i llvn a holl wynedd
58 ai mawl gwyn ivyd ai medd
Dauid ap Gwilim